Rheilffordd Dyffryn Conwy (Ein treftadaeth)
Mae gan Reilffordd Dyffryn Conwy dreftadaeth gyfoethog. Os ewch am dro ar y llinell hon, mae’n werth edrych allan am nodweddion traddodiadol, gan gynnwys adeiladau gorsafoedd ac arwyddion semaffor. Yn ogystal â theithwyr arferid defnyddio’r llinell i gludo llechi o Ffestiniog i’r cei yn Neganwy yn aber yr afon Conwy, yn barod i’w hallforio.
Agorwyd y llinell mewn camau rhwng 1863 a 1879. Gall y rheilffordd hawlio’r twnnel hiraf ar linell sengl yn y DU ac fe’i lleolir ar ddarn olaf y llinell i Flaenau Ffestiniog. Cymerodd peirianyddion y twnnel fantais o dechnegau arloesol drwy ddefnyddio dynameit a drilio niwmatig a ddatblygwyd wrth adeiladu Twnnel Rheilffordd Fréjus a gysylltai Ffrainc a’r Eidal drwy Mont Cenis yn yr Alpau. Mae twnnel Rheilffordd Dyffryn Conwy yn syth heblaw am ychydig o fwa yn y pen gogleddol.
Mabwysiadwyd y rhan fwyaf o’r gorsafoedd ar y rheilffordd gan bobl leol ac mae eu gwaith gwirfoddol wedi gwedd newid edrychiad y gorsafoedd.
Sicrhewch na fyddwch yn methu’r draphont nodedig yn Nolwyddelan, a adwaenir yn Bont Gethin ar ôl contractwr lleol, Owain Gethin Jones, a gwblhaodd y strwythur bendigedig.
Cysylltwch Os Gwelwch yn Dda os oes gennych unrhyw ymholiadau am y wefan hon, neu os hoffech wybodaeth ychwanegol.