Blaenau Ffestiniog
Ynglyn
Mae gorsaf drenau Blaenau Ffestiniog yn gwasanaethu’r dref gyda phlatfform anarferol sy’n agor yn uniongyrchol i’r maes parcio a’r stryd fawr. Rhywbeth arall anarferol arall yw ei bod yn orsaf ar y cyd gyda Rheilffordd Ffestiniog sy’n gweithredu ar gledrau cul ac yn cynnig gwasanaethau twristaidd yn bennaf i Borthmadog. Cafodd yr orsaf hon ei hadeiladu’n wreiddiol gan Reilffordd Dyffryn Conwy ym 1879 i greu cysylltiad rhwng y chwareli llechi lleol a’r cei newydd oedd wedi ei adeiladu yn Neganwy, i fanteisio ar dwf y diwydiant llechi.
Gorsaf Blaenau Ffestiniog
Stryd yr Eglwys
Blaenau Ffestiniog
Gwynedd
LL41 3HE
Ffôn: 0333 005 0501
Mae’r orsaf hon ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul am 24 awr y dydd ac nid oes staff arni.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
- Ardal eistedd
- Ffonau talu
- Maes parcio