Your search results

Cyngor Diogelwch Rheilffordd

Mae cadw pobl yn ddiogel ger y rheilffordd wrth wraidd popeth a wnawn

Rydym ni’n gofalu bod teithwyr ac aelodau eraill o’r cyhoedd yn deall sut i gadw’n ddiogel. Mae’n gyfrifoldeb arnom ni i addysgu a darparu cyngor oherwydd, er bod gennym ni un o’r rhwydweithiau rheilffordd mwyaf diogel yn Ewrop, mae damweiniau difrifol ac angheuol, yn ogystal â damweiniau agos, yn dal yn digwydd.

Rydym ni’n buddsoddi mewn nifer o raglenni ac ymgyrchoedd, sy’n codi ymwybyddiaeth pobl o ddiogelwch, gan weithio gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol i wneud y rheilffordd yn lle mwy diogel i’r cyhoedd. Rydym ni’n darparu gwybodaeth a chyngor ynglŷn â â chroesfannau gwastad, cadw’n ddiogel yn yr orsaf ac yn cymryd rhan mewn mentrau i atal hunanladdiadau.

Am fwy o wybodaeth am sut i gadw’n ddiogel wrth deithio ar ein rheilffordd arbennig, ewch i wefan y Network Rail.

  • Chwilio am Lwybr